Fe fydd y Goruchaf Lys heddiw (dydd Mawrth, Medi 17) yn ystyried pa un a oedd penderfyniad Boris Johnson i ohirio’r Senedd am bum wythnos yn gyfreithlon ai peidio.

Mae disgwyl brwydr gyfreithiol fawr wrth i 11 barnwr glywed dadleuon gan ddwy her ar wahân – un o Loegr a Chymru a’r llall o’r Alban – dros y tri diwrnod nesaf.

Yn ôl y Prif Weinidog, fe benderfynodd ohirio’r Senedd er mwyn galluogi’r Llywodraeth i amlinellu ei hagenda ddeddfwriaethol yn Araith y Frenhines ar Hydref 14.

Ond mae’r rheiny sy’n herio’r penderfyniad hwnnw o’r farn mai atal unrhyw drafodaeth bellach ar Brexit – y mae disgwyl iddo ddigwydd ar Hydref 31 – oedd bwriad y gohirio.

Mae’r Senedd yn San Steffan wedi bod ynghau ers wythnos (Medi 10).

Yr heriau

Yr wythnos ddiwethaf (Medi 11), fe wrthododd yr Uchel Lys yn Llundain her a gyflwynwyd gan y ddynes fusnes a’r ymgyrchydd, Gina Miller, gan ddweud bod y gohirio yn fater gwleidyddol.

Ond ar yr un diwrnod, fe ddaeth barnwr yn y Tŷ Mewnol yn Llys y Sesiwn yng Nghaeredin – llys sifil uchaf yr Alban – i’r casgliad bod penderfyniad Boris Johnson yn anghyfreithlon.

Mae her Gina Miller yn cael ei chefnogi gan y cyn-Brif Weinidog, John Major, y Farwnes Chakrabarti a llywodraethau’r Alban a Chymru.

Grŵp trawsbleidiol o tua 75 o Aelodau Seneddol sy’n gyfrifol am yr her o’r Alban.

Mae Llywodraeth Prydain yn apelio yn erbyn dyfarniad Llys y Sesiwn, tra bo Gina Miller yn apelio yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys.