Mae Boris Johnson yn ffyddiog am gytundeb Brexit newydd wrth iddo baratoi ar gyfer ei gyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf gyda Jean-Claude Junker.

Bydd y Prif Weinidog yn teithio i Lwcsembwrg heddiw (dydd Llun, Medi 16) lle mae disgwyl iddo rybuddio Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd y bydd yn gwrthod unrhyw gynnig i ohirio Brexit.

Mewn erthygl ym mhapur y Daily Telegraph, dywed Boris Johnson ei fod yn gweithio’n “ddiflino” er mwyn dod i gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Ond fe fydd gwledydd Prydain yn gadael ar Hydref 31 hyd yn oed os na fydd cytundeb wedi ei ffurfio cyn hynny a chyn uwchgynhadledd yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 17, meddai.

“Credu’n gryf” yn y posibilrwydd o gytundeb

“Os gallwn ni wneud digon o gynnydd yn y dyddiau nesaf, fy mwriad yw mynd i’r uwchgynhadledd pwysig hwnnw ar Hydref 17 a chwblhau cytundeb a fydd yn amddiffyn buddiannau busnesau a dinasyddion ar ddwy ochr y sianel – ac ar ddwy ochr y ffin yn Iwerddon,” meddai Boris Johnson.

“Dw i’n credu’n gryf y gallwn ni ei wneud e, a dw i’n credu bod cytundeb o’r fath yn bwysig o safbwynt ein buddiannau ni a buddiannau ein ffrindiau Ewropeaidd.

“Rydym ni wedi treulio rhy hir ar y cwestiwn hwn. Ac os gallwn sicrhau cytundeb, fe fydd yna ddigon o amser i’r Senedd graffu arno a’i gymeradwyo cyn diwedd mis Hydref.

“Ond os na fyddwn ni’n gallu cael cytundeb – y cytundeb iawn ar gyfer y ddwy ochr – bydd gwledydd Prydain yn gadael, beth bynnag.”

Mae disgwyl i Boris Johnson gyfarfod hefyd â phrif drafodwr Brexit yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, a Phrif Weinidog Lwcsembwrg, Xavier Bettel, yn ystod ei ymweliad heddiw.