Mae Sam Gyimah, y cyn-weinidog Ceidwadol oedd yn un o’r ymgeiswyr yn ddiweddar i arwain y blaid, wedi symud at y Democratiaid Rhyddfrydol.

Daeth y newyddion wrth iddo annerch cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Bournemouth.

Aelod seneddol Dwyrain Surrey yw’r chweched aelod seneddol i symud eleni, yn dilyn sïon fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn paratoi ar gyfer y cyhoeddiad dros y dyddiau diwethaf.

Y rhai eraill sydd wedi gadael y blaid yw Dr Philip Lee a Dr Sarah Woollaston, ac mae Luciana Berger, Chuka Umunna ac Angela Smith hefyd wedi ymuno o’r Blaid Lafur ers mis Ionawr.

Roedd Sam Gyimah yn un o gynorthwywyr seneddol David Cameron pan oedd e’n brif weinidog.

Ond fe ddaeth e’n aelod annibynnol ar ôl colli’r chwip fel Ceidwadwr am gefnogi’r gwrthbleidiau wrth iddyn nhw atal Brexit heb gytundeb.

Mae’n cefnogi cynnal ail refferendwm ar ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Cyfnod cythryblus

Mae Sam Gyimah yn dweud nad “penderfyniad hawdd” oedd gadael y Ceidwadwyr.

Ymddiswyddodd e o feinciau blaen llywodraeth Theresa May ym mis Tachwedd yn sgil ei Chytundeb Ymadael, ac fe fu’n llafar ei wrthwynebiad i’r cynllun hwnnw ers tro.

Ers ymuno â’r Democratiaid Rhyddfryfol, mae wedi lladd ar Boris Johnson yn sgil ei ddull o geisio cytundeb Brexit, gan ddweud ei fod yn teimlo nad oes opsiwn bellach ond mynd am Brexit heb gytundeb.

Ac mae’n feirniadol o’r awgrym y gallai Boris Johnson geisio anwybyddu’r gyfraith sy’n mynnu bod rhaid ymestyn Brexit tan 2020 os nad oes yna gytundeb erbyn Hydref 19.

Mae’n cyhuddo’r prif weinidog a Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, o lywodraeth dros bleidiau sy’n dangos “diffyg goddefgarwch”.