Mae tŷ bach gwerth £1m wedi cael ei dwyn o Balas Blenheim, ac mae dyn 66 oed wedi cael ei arestio.

Cafodd ei ddwyn o arddangosfa yn dathlu man geni Winston Churchill yn oriau man fore heddiw (dydd Sadwrn, Medi 14).

Yn ôl yr orsaf radio Jack FM, fe wnaethon nhw dderbyn adroddiadau di-enw fod yr eitem wedi cael ei ddwyn ond fod yr heddlu wedi dod o hyd iddo rai oriau’n ddiweddarach.

Cafodd y tŷ bach euraid ei ddylunio gan yr Eidalwr Maurizio Cattelan, ac fe fu’n rhan o arddangosfa yn Efrog Newydd yn y gorffennol.

Roedd y tŷ bach ar gael i’w ddefnyddio gan ymwelwyr â’r palas.