Mae dau o lanciau 16 oed wedi cael eu cyhuddo o lofruddio llanc 17 oed  yng nghanol Llundain.

Bu farw Josiph Beker y tu allan i fwyty KFC yn Edgware Road brynhawn dydd Mawrth (Medi 10).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 1.54yp, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty lle bu farw rai oriau’n ddiweddarach.

Cafodd tri o lanciau eu harestio ddoe (dydd Gwener, Medi 13).

Mae dau o lanciau 16 oed wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth, ac mae dyn 18 oed wedi’i ryddhau ar fechnïaeth dan ymchwiliad.

Byddan nhw’n mynd gerbron ynadon Highbury Corner heddiw.