David Cameron yn ymddiheuro am achosi rhwyg tros Brexit

 
Y Prif Weinidog David Cameron, gyda’i wraig Samantha, yn cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo ar ôl i Brydain bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Llun: PA

David Cameron yn ymddiswyddo yn dilyn colli Refferendwm Brexit

Y Prif Weinidog David Cameron, gyda’i wraig Samantha, yn cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo ar ôl i Brydain bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Llun: PA

Mae David Cameron, cyn-Brif Weinidog Prydain, wedi ymddiheuro am achosi rhwyg yn sgil Brexit, gan ddweud ei fod yn meddwl am yr ansicrwydd “bob dydd” ac yn gofidio am y dyfodol.

Rhagflaenydd Theresa May oedd wrth y llyw adeg rhoi’r hawl i gynnal refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Daw ei sylwadau mewn cyfweliad â’r Times ar drothwy cyhoeddi ei hunangofiant yr wythnos nesaf.

Mae’n dweud nad oes modd diystyru cynnal ail refferendwm, ac yn lladd ar Boris Johnson, y prif weinidog presennol, a Michael Gove am eu rhan yn yr ymgyrch tros adael.

Mae’n cyhuddo’r ddau o “adael y gwirionedd gartref” wrth drafod Twrci’n ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, a’r ffigwr dadleuol o £350m a gafodd ei grybwyll adeg y refferendwm.

“Mae yna rai na fyddan nhw fyth yn maddau i fi am ei gynnal neu am fethu â sicrhau’r canlyniad ro’n i’n chwilio amdano, sef fod Prydain yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd ddiwygiedig,” meddai wrth drafod y refferendwm.

“Dw i’n difaru’r canlyniad yn fawr ac yn derbyn bod fy null wedi methu.

“Cyfrannodd y penderfyniadau wnes i at y methiant hwnnw. Fe wnes i fethu.”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Cofio Eirwyn Pontsiân – darlith Lyn Ebenezer