Mae John Bercow wedi rhybuddio Boris Johnson y bydd yn bod yn “greadigol” yn y Senedd os fydd y Prif Weinidog yn anwybyddu’r gyfraith sydd gyda’r bwriad o atal Brexit heb gytundeb.

Dywed Llefarydd y Tŷ hefyd mai’r unig Brexit sydd yn bosib yw Brexit sy’n cael ei gefnogi gan Aelodau Seneddol.

Pasiwyd cyfraith newydd cyn gwahardd y Senedd, sy’n gorfodi’r Prif Weinidog i ohirio Brexit tan Ionawr 31 2020, oni bai fod cytundeb neu Brexit heb gytundeb yn cael ei gefnogi gan ASau cyn Hydref 19.

Wrth ymateb i sylwadau John Bercow, dywedodd yr Aelod Seneddol Syr Bernard Jenkin bod y Llefarydd wedi dod yn “wleidyddol a radical”.