Mae Boris Johnson wedi gwadu dweud celwydd wrth y Frenhines er mwyn sicrhau bod y Senedd yn cael ei diddymu, gan fynnu fod yr honiad “bendant ddim yn wir.”

Yn ôl y Prif Weinidog ei fwriad wrth ohirio’r Senedd oedd er mwyn gallu cyhoeddi  agenda deddfwriaethol newydd yn ystod Araith y Frenhines ar Hydref 14.

Mae Aelodau Seneddol sy’n gwrthwynebu penderfyniad y Prif Weinidog yn honni mai’r gwir reswm oedd er mwyn atal y Senedd rhag craffu’r Llywodraeth ynglŷn â Brexit.

Dywed Boris Johnson: “Mae’r Uchel Lys yn Lloegr yn cytuno gyda ni, ond bydd yn rhaid i’r Goruchaf Lys benderfynu. Rydym angen Araith y Frenhines, mae’n rhaid i ni gario ymlaen a gwneud pob math o bethau ar lefel wladol.”

Roedd Llys Sifil uchaf yr Alban wedi datgan ddoe (dydd Mercher, Medi 11) fod penderfyniad Boris Johnson i ohirio’r Senedd yn anghyfreithlon.

Bu i banel o dri barnwr ddatgan o blaid grŵp traws-bleidiol o wleidyddion a oedd yn herio penderfyniad y Prif Weinidog i ddiddymu’r Senedd am bump wythnos.