Rhaid i gwmnïau sy’n creu gemau cyfrifiadurol fod yn “fwy cyfrifol wrth ddelio â’r niwed mae [eu] technoleg yn medru’i achosi.”

Dyna mae Damian Collins, Chadeirydd un o bwyllgorau San Steffan, wedi’i rhybuddio yn sgil cyhoeddiad adroddiad diweddar i’r diwydiant.

Mae Pwyllgor yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), yn galw ar y cwmnïau yma i gymryd cyfrifoldeb tros eu technoleg ac yn tynnu sylw yn benodol at loot boxes.

Pecynnau rhithiol yw’r rhain, ac mae eu cynnwys yn ddirgel tan eu bod wedi cael eu prynu ag arian go iawn. Ym marn y pwyllgor, mi ddylen nhw gael eu rheoleiddio gan ddeddfau gamblo.

“Bygythiad o niwed i blant”

“Mae cwmnïau gemau yn medru gwneud tipyn o elw o loot boxes,” meddai Damian Collins o bwyllgor y DCMS. “Ond maent yn dod â chost, yn enwedig i bobol â phroblemau gamblo.

“Mi allan nhw hefyd beri’r bygythiad o niwed i blant. Gêm siawns yw prynu loot box ac maen hen bryd bod cyfreithiau gamblo yn dal i fyny.

“Heriwn y Llywodraeth i esbonio pam na ddylai loot boxes gael eu rheoleiddio gan y Ddeddf Gamblo.”