Mae galwadau am reoleiddio mwy llym ar bla-laddwyr mewn gwledydd incwm isel, wrth i ymchwil newydd ddangos faint  o bobol sy’n lladd eu hunain trwy wenwyno.

Mae astudiaeth gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Caeredin yn awgrymu y gallai tua 15 miliwn o bobol ledled y byd fod wedi marw trwy lyncu pla-laddwyr yn ystod y 60 mlynedd diwethaf.

Mae adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd yn cyfeirio at wenwyno pla-laddwyr fel un o’r dulliau mwyaf cyffredin o gyflawni hunanladdiad heddiw.

Er mwyn atal marwolaethau pellach, mae’r tîm ymchwil wedi argymell cryfhau rheoleiddio plaladdwyr ar draws gwledydd incwm isel a chanolig. Nid oes gan lawer o gymunedau gwledig y cyfleusterau i’w defnyddio na’u storio’n ddiogel, medden nhw, ac maen nhw’n rhy hawdd i bobl eu prynu ar adegau o straen.

“Mae ymdrechion hunanladdiad yn aml yn digwydd ar adegau byrhoedlog o straen mawr,” meddai’r Athro Michael Eddleston, cyfarwyddwr y Ganolfan Atal Hunanladdiad Pla-laddwyr ym Mhrifysgol Caeredin.

“Mae argaeledd hawdd dulliau angheuol iawn – fel plaladdwyr neu ynnau – ar yr adegau hyn yn cynyddu’r risg i’r person farw.

“Mae absenoldeb y plaladdwyr gwenwynig iawn hyn yn caniatáu i bobl oroesi eu hymgais i wenwyno ac yna mynd ymlaen i ddod o hyd i help yn eu cymunedau a’u gwasanaethau iechyd meddwl lleol. Mae llawer yn mynd ymlaen i fyw bywyd hir a boddhaus.”