Yn ôl Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, “mae yna ffordd” o gael cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd cyn Hydref 31.

Daw hyn wrth iddo baratoi i gynnal trafodaethau gydag Arlene Flack, arweinydd y DUP yng Ngogledd Iwerddon,

Dywed Boris Johnson fod “llwyth o bobol” eisiau cytundeb â Phrydain, ond ei fod yn fwy na pharod i adael heb un petai hynny’n “hollol angenrheidiol”.

Mae ymdrechion Boris Johnson i orfodi etholiad cynnar wedi cael eu rhwystro gan Aelodau Seneddol.

Yn ôl Aelodau Seneddol sy’n gwrthwynebu’r Prif Weinidog, mae’n rhaid i gyfraith sy’n atal Brexit heb gytundeb ar Hydref 31 gael ei basio drwy Dŷ’r Cyffredin cyn bod unrhyw etholiad yn cael ei gynnal.