Mae Jeremy Corbyn wedi rhybuddio Boris Johnson bod etholiad cyffredinol “ar ei ffordd”, ond nid ar delerau’r Prif Weinidog, wrth i’r arweinydd Llafur lansio ei ymgyrch dros etholiad nad yw eto i bleidleisio drosto.

Roedd Jeremy Corbyn wedi bygwth “rhyddhau’r ymgyrch fwyaf gan bobol a welsom erioed” wrth annerch aelodau undeb yng Nghyngres TUC yn Brighton heddiw (dydd Mawrth, Medi 10).

Ac fe gyhuddodd y Prif Weinidog o “redeg i ffwrdd rhag y craffu” ar ddiwrnod cyntaf cau’r Senedd i lawr am bump wythnos.

Hyd yn hyn nid yw arweinwyr yr wrthblaid wedi cefnogi’r pleidleisiau, a oedd angen cefnogaeth dwy ran o dair o ASau, oherwydd eu bod yn ofni y gallai gael ei ddefnyddio i orfodi trwy Brexit heb gytundeb.

“Ni all unrhyw un ymddiried yng ngair Prif Weinidog sy’n bygwth torri’r gyfraith i orfodi’r dim cytundeb trwyddo,” meddai Jeremy Corbyn wrth aelodau’r TUC.

“Felly mae etholiad cyffredinol ar ei ffordd. Ond ni fyddwn yn caniatáu i Johnson bennu’r telerau.

“A gallaf ddweud hyn wrthych; rydyn ni’n barod ar gyfer yr etholiad hwnnw. Rydyn ni’n barod i ryddhau’r ymgyrch fwyaf pwerus i bobol ei gweld erioed.”