Roedd dyfais ffrwydrol oedd wedi ei darganfod mewn tref ar ffin Iwerddon wedi’i gosod gyda’r bwriad o dargedu gorsaf yr heddlu, yn ôl uwch swyddog.

Dywed yr heddlu eu bod yn credu mai grŵp y New IRA sy’n gyfrifol wedi i gerddwr ddarganfod y bom ar wal yn Strabane, Swydd Tyrone, fore dydd Sadwrn (Medi 7).

Bu dwsinau o swyddogion yn chwilio am ddeunydd creu bomiau ger y Derri fore dydd Llun (Medi 9), lle cafodd y newyddiadurwraig Lyra McKee ei saethu’n farw.

Mae Uwch-arolygydd Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon Gordon McCalmont yn dweud nad oes gan y digwyddiad ddim i’w wneud gyda Brexit ond ychwanegodd fod y digwyddiad, y seithfed o’i fath eleni, yn achos pryder.