Mae gweithwyr British Airways yn cynnal streic 48 awr tros gyflogau – y tro cyntaf erioed i aelodau Cymdeithas Peilotiaid Awyr Prydain weithredu’n ddiwydiannol.

Mae disgwyl i’r streic effeithio ar gannoedd o deithiau.

Mae British Airways yn cynnig codiad cyflog o 11.5% dros gyfnod o dair blynedd, ond mae’r gweithwyr am dderbyn cyfran uwch o elw’r cwmni.

Mae British Airways yn ymddiheuro am yr anghyfleustra.

“Rydym yn barod i ddychwelyd i’r trafodaethau gyda Balpa,” meddai’r cwmni mewn datganiad.

Ond maen nhw’n cyhuddo’r undeb o fethu â rhoi gwybod pa beilotiaid fyddai’n streicio, sy’n golygu eu bod nhw wedi gorfod canslo bron yr holl deithiau am y tro.

Mae British Airways yn trefnu hyd at 850 o deithiau bob dydd, ac fe allai’r streic effeithio ar hyd at 145,000 o deithwyr dros y ddeuddydd nesaf.

Maes awyr Heathrow sy’n debygol o gael ei effeithio fwyaf.

Ymateb Balpa

 “Mae angen i British Airways ddihuno a sylwedoli bod eu peilotiaid yn benderfynol o gael eu clywed,” meddai Brian Strutton, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb.

“Maen nhw eisoes wedi derbyn toriadau i’w cyflogau er mwyn helpu’r cwmni trwy amseroedd anodd.

“Nawr mae BA yn gwneud miliynau o bunnoedd o elw, ac mae eu peilotiaid wedi gwneud cais teg, rhesymol a fforddiadwy ar gyfer cyflogau a budd-daliadau.

“Mae Balpa yn gyson wedi cynnig cyfleoedd i’r cwmni drafod y ffordd ymlaen.”

Yn ôl Balpa, bydd y streic yn costio £40m y dydd i British Airways, ac fe allai gostio £5m i daro bargen i ddod â’r anghydfod i ben.

Gallai derbyn y cynnig olygu bod rhai o beilotiaid British Airways yn ennill dros £200,000.