Mae John McDonnell, Canghellor Llafur, yn dweud na fydd y Blaid Lafur yn cefnogi ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban yn gyfnewid am gefnogaeth yr SNP mewn etholiad cyffredinol.

Fe ddywedodd mewn sgwrs yng Ngŵyl Ffrinj Caeredin na fyddai Llafur yn atal ail refferendwm annibyniaeth.

Mae’n mynnu erbyn hyn nad oes yna gytundeb yn ei le gyda’r SNP, ac na fyddai ail refferendwm yn cael ei gynnig tra byddai Llafur mewn grym yn San Steffan.

Fis diwethaf yng Nghaeredin, fe ddywedodd fod gan Albanwyr yr hawl i benderfynu drostyn nhw eu hunain fel rhan o “ddemocratiaeth”, sy’n gwbl groes i safbwynt Llafur yr Alban.

Ond dywedodd e heddiw ar raglen Andrew Marr ar y BBC mai “barn bersonol” oedd honno.

“Nid taro bargen yw hynny, dyna fy safbwynt i, ond dydyn ni ddim yn taro bargen ag unrhyw un,” meddai.

“Pan awn ni i mewn i’r etholiad cyffredinol nesaf, dw i’n credu y bydd gennym fwyafrif, ond os ydyn ni yn y lleiafrif, mi fyddwn ni’n llywodraeth leiafrifol.

“Wnawn ni ddim clymbleidio, a byddwn ni’n disgwyl [i bleidiau eraill] gefnogi’r blaid.”