Wrth i’r mesur i geisio atal Brexit di-gytundeb gwblhau ei daith drwy Dŷ’r Arglwyddi ddoe, mae amheuon wedi codi ynghylch parodrwydd y Prif Weinidog i ufuddhau i’r ddeddf newydd.

Yn dilyn sylwadau gan Boris Johnson neithiwr, mae Aelodau Seneddol o wahanol bleidiau yn ceisio cyngor cyfreithiol ar ffyrdd o’i orfodi i ofyn am ohirio Brexit os na fydd wedi cael cytundeb.

Mewn llythyr at aelodau’r Blaid Geidwadol neithiwr, roedd y Prif Weinidog yn awgrymu y gallai wrthod ufuddhau i’r ddeddf, gan ddweud na fyddai byth yn “erfyn ar Frwsel am estyniad i ddyddiad gadael yr Undeb Ewropeaidd”.

Wrth ymateb i hyn, dywed un o weinidogion mwyaf blaenllaw llywodraeth Theresa May y byddai’n gosod “cynsail peryglus” pe bai Boris Johnson yn dewis anufuddhau i’r gyfraith.

“Mae’n egwyddor mor sylfaenol ein bod yn cael ein llywodraethu gan reolaeth y gyfraith fel y byddwn yn gobeithio y byddai hyn yn cael ei dderbyn yn ddi-gwestiwn gan unrhyw blaid,” meddai David Lidington.

Mae un o gyn-arweinwyr y Torïaid, Iain Duncan Smith, fodd bynnag, yn rhoi pob anogaeth i Boris Johnson dorri’r ddeddf newydd, gan ddweud y byddai’n cael ei weld fel “merthyr” pe bai barnwyr yn ei garcharu.

“Y Senedd yn erbyn y bobl yw hyn,” meddai. “Mae Boris Johnson o blaid y bobl, a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd.”