Mae llys wedi clywed fel yr aeth myfyriwr â gwn ffug i mewn i gampws prifysgol yn ne orllewin Lloegr gan fygwth “dechrau saethu” pe na bai cyflwyniad yn mynd yn dda,

Roedd Yihe Xiong, 25, yn astudio ar gyfer gradd meistr pan aeth â’r fersiwn ffug o ddryll Beretta 92 i’r sesiwn ar safle Streathem ym Mhrifysgol ar Orffennaf 19.

Fe ddywedodd wrth ei gyd-fyfyrwyr bod ganddo ddwsin o fwledi sbâr ac y byddai’n dechrau saethu “i bobman” os na fyddai’n hapus gyda’i gyflwyniad y bore hwnnw.

Mae Llys y Goron Exeter hefyd wedi clywed sut y cafodd yr heddlu eu galw wedi i Yihe Xiong bwyntio’r arf at fyfyriwr oedd yn eistedd y tu ol idd gan ddatgan, “Dyma darged arall”.

Mae’r Barnwr Peter Johnson wedi anfon Yihe Xiong i’r carchar am wyth mis.