Mae arweinydd yr SNP yn San Steffan wedi galw ar Aelodau Seneddol o bob plaid i gydweithredu ar frys i rwystro Brexit di-gytundeb.

Yn ôl Ian Blackford, y peth cyntaf sy’n rhaid i ASau ei wneud ar ôl dychwelyd i’r Senedd yr wythnos nesaf yw cipio rheolaeth o’r amserlen er mwyn ceisio dileu’r opsiwn o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

“Mae angen inni gofio’r ffaith fod Boris Johnson wedi dod yn Brif Weinidog ar bleidleisiau aelodau Ceidwadol y Senedd,” meddai Ian Blackford.

“Does ganddo ddim mandad gan y pleidleisiwyr, a dydi’r un blaid, nac ychwaith y refferendwm yn 2016, wedi cynnig y bydden ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

“Mae angen ei rwystro a dw i’n apelio ar seneddwyr i gydnabod y cyfrifoldeb yma ar y cyd a bod yn rhaid inni weithredu ar frys yr wythnos nesaf.

“Mae angen i bawb ohonom amddiffyn buddiannau ein hetholwyr rhag Brexit.”