Mae’r cyn-brif weinidog Gordon Brown wedi galw ar y Senedd i orchymyn ymchwiliad annibynnol i ganlyniadau gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

“Fe ddylai Aelodau Seneddol gymryd drosodd busnes Tŷ’r Cyffredin am ddiwrnod, fel y gwnaethon nhw o’r blaen, a phasio deddf sy’n dweud bod yn rhaid i’r Llywodraeth gynhyrchu adroddiad annibynnol ar ganlyniadau Brexit di-gytundeb,” meddai.

“A dylai’r adroddiad hwnnw gael ei gyflwyno gerbron Tŷ’r Cyffredin cyn i ddim byd ddigwydd.

“Byddai hynny’n ffordd synhwyrol ymlaen.”