Mae dau ddyn 25 oed wedi cael eu cyhuddo o lofruddio Malcolm McKeown yn sir Down yng Ngogledd Iwerddon yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd y dyn 54 oed ei saethu’n farw yn Waringstown ddydd Llun (Awst 19).

Bydd y ddau yn mynd gerbron ynadon yn Lisburn yfory (dydd Llun, Awst 26).