Mae cadeirydd Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Thorcyfraith yn galw am garcharu unrhyw un sy’n ymosod ar blismyn.

Mae Katy Bourne yn dweud y dylid cyflwyno cosbau llymach, ac y dylid carcharu troseddwyr o’r fath “heb os nac oni bai”.

Bu’n siarad yn dilyn llofruddiaeth y cwnstabl Andrew Harper wrth iddo ymateb i ladrad yn Swydd Berkshire.

Bu farw o nifer o anafiadau ar ôl cael ei lusgo o dan gerbyd ar Awst 15.

Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu’n galw ar i uwch blismyn o bob rhan o Gymru a Lloegr ddod ynghyd  fis nesaf am uwch-gynhadledd i drafod gwarchod plismyn.

‘Croesawu’ dedfrydau llymach

“Os ydych chi’n ymosod ar blismon, mae angen i chi wybod y byddwch chi’n mynd i’r carchar, heb os nac oni bai,” meddai Katy Bourne wrth y Press Association.

“Dw i’n credu y byddai cryfhau’r dedfrydau’n cael ei groesawu’n fawr.

“Dw i’n sicr fod y cyhoedd yn teimlo’r un fath.

“Sut ydyn ni wedi dod i fan fel cymdeithas lle mae’n ffaith ein bod ni bron iawn yn derbyn hyn bob dydd?”

Wrth ddweud y dylid gwneud mwy i ddathlu dewrder yr heddlu, mae’n dweud bod y cynnydd mewn troseddau yn eu herbyn yn “annerbyniol”.

“Dydych chi ddim yn ymuno â’r heddlu er mwyn dioddef ymosodiad, rydych chi’n ymuno â’r heddlu er mwyn gwarchod eich cymuned.

“Rydyn ni’n edrych tuag atyn nhw i’n gwarchod ni.”