Mae ail fab y Frenhines, y Tywysog Andrew, yn dweud nad oedd “erioed wedi amau” ymddygiad ei ffrind Jeffrey Epstein.

Fe laddodd y dyn busnes ei hun yn y carchar bythefnos yn ôl wrth aros i fynd gerbron llys wedi’i gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn merched ifanc.

Mae hefyd yn dweud mai “camgymeriad” oedd mynd i weld ei ffrind ar ôl iddo adael y carchar yn 2010 ar ôl treulio 18 mis dan glo am droseddau rhyw.

“Mae’n ymddangos y bu, ers hunanladdiad Mr Epstein, gryn dipyn o sïon yn y cyfryngau am gymaint o’i fywyd,” meddai mewn datganiad.

“Mae hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â’m cyswllt neu gyfeillgarwch â Mr Epstein.

“Felly rwy’n awyddus i egluro’r ffeithiau er mwyn osgoi dyfalu pellach.”

Eglurhad

Mae’n dweud iddo gyfarfod â Jeffrey Epstein yn 1999, a’i fod yn ei weld unwaith neu ddwy y flwyddyn wedi hynny.

Mae hefyd yn dweud iddo aros yn nifer o’i gartrefi ar hyd y blynyddoedd ers hynny.

Ond mae’n dweud nad oedd e erioed wedi “gweld neu fod yn dyst i unrhyw ymddygiad o’r fath a arweiniodd maes o law at ei arestio a’i gael yn euog”.

Mae’n sylweddoli erbyn hyn nad oedd e’n ei adnabod o gwbl, meddai, a’i fod e’n “cydymdeimlo” â’i ddioddefwyr.