Mae Boris Johnson wedi dweud wrth ffoaduriaid am beidio croesi’r Sianel neu “fe fyddwn ni’n eich anfon chi’n ôl”.

Daw sylwadau Prif Weinidog Prydain ar ôl i bron i gant o bobol geisio croesi’r môr o Ffrainc o fewn un diwrnod.

Mae’r newyddion wedi arwain at yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel yn gofyn am gyfarfod gyda Ffrainc am y sefyllfa.

“Yn amlwg y peth pwysicaf yw eu hatal rhag dod ar draws o Ffrainc felly rydyn ni’n gweithio’n agos iawn gydag awdurdodau Ffrainc,” meddai Boris Johnson.

“Dyma’r pwynt y byddwn i’n ei wneud i bobl sy’n ystyried gwneud y siwrnai hon – un, mae’n beryglus iawn, efallai eich bod chi’n meddwl bod y tywydd yn edrych yn wych ond mae’n beth peryglus iawn, iawn i’w wneud.

“Yr ail beth yw – byddwn yn eich anfon yn ôl. Ni ddylid ystyried gwledydd Prydain fel man lle y gallech ddod yn awtomatig i dorri’r gyfraith trwy geisio cyrraedd yn anghyfreithlon.”

Cafodd awdurdodau eu galw i o leiaf saith digwyddiad ddydd Iau (Awst 22) yn ymwneud â 94 o bobol oedd yn ceisio croesi’r dŵr o Ffrainc i gyrraedd gwledydd Prydain.

Yn gynharach yn y bore, dywedodd gwylwyr y glannau yn Ffrainc eu bod wedi dod o hyd i 24 o ffoaduriaid, gan gynnwys saith o blant a dynes, yn ceisio croesi’r Sianel.