Mae nifer o gynigion wedi’u gwneud i brynu iard gychod Harland and Wolff yng Ngogledd Iwerddon.

Mae yna ddisgwyl hefyd y bydd mwy o gynigion yn dod am y busnes sydd mewn peryg o gau.

Mae’r gweinyddwyr wedi dweud eu bod, felly, yn atal am y tro y bwriad i ddiswyddo’r gweithwyr tan Fedi 30, er mwyn ymchwilio potensial yr amrywiol opsiynau sydd ar y bwrdd.

“Mae yna ddiddordeb iach iawn wedi bod yn y busnes a’r asedau,” meddaii llefarydd ar ran BD. “Mae gwarchod y swyddi presennol yn flaenoriaeth ganddon ni, felly rydyn ni’n atal y broses.”