Mae deg carchar a fu’n rhan o gynllun peilot wedi profi cwymp o ran nifer ymosodiadau a defnydd cyffuriau.

Cafodd y cynllun £10 miliwn ei lansio fis Awst diwethaf, a rhwng lansiad y cynllun a mis Mawrth eleni mae’n debyg bod defnydd cyffuriau wedi haneru.

Ac o gymharu’r tri mis hyd at Awst y llynedd, a’r tri mis hyd at Fehefin eleni, mae nifer yr ymosodiadau wedi disgyn 16%.

Roedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud ei bod yn disgwyl “canlyniadau amlwg” o fewn deuddeg mis, a dywedodd gweinidog carchardai ar y pryd, Rory Stewart, y byddai’n camu o’r neilltu pe bai’r yn methu.

Croesawu’r canlyniadau

“Mae canlyniadau’r prosiect beiddgar yma … yn galonogol,” meddai’r gweinidog carchardai presennol, Lucy Frazer.

“Trawsnewid rhai o’n carchardai mwyaf trafferthus oedd y nod, a bellach maen nhw wedi profi cwymp mewn trais a defnydd cyffuriau.”

Y cynllun peilot

Cafodd y cynllun ei gyflwyno yng ngharchardai Hull, Humber, Leeds, Lindholme, Moorland, Wealstun, Nottingham, Ranby, Isis a Wormwood Scrubs.

A dan y cynllun peilot cafodd sganwyr a chŵn arbenigol eu cyflwyno, a chafodd isadeiledd y carchardai ei drwsio.