Fe all gosod treth ar y 1% o enillwyr uchaf gwledydd Prydain godi £10bn y flwyddyn a lleihau anghydraddoldeb, mae Oxfam yn honni.

Mae’r elusen ryngwladol wedi cyhoeddi ei ddarganfyddiadau o flaen cyfarfod pwerdai G7 penwythnos yma sy’n dangos fod anghydraddoldeb incwm wedi codi ym mhob un o wledydd G7 ers yr 1980au.

Gan eithrio Siapan a Canada, mae’r gwahaniaeth wedi cynyddu yn yr holl wledydd ers 2004, a hynny “yn enwedig yng ngwledydd Prydain a’r Eidal.”

Yn ôl Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, fe fydd y gynhadledd yn Biarritz yn Ffrainc yn canolbwyntio ar y frwydr yn erbyn anghydraddoldeb.

Dywed Is-ganghellor gwledydd Prydain hefyd bod yr adroddiad newydd yn “chwalu honiadau’r llywodraeth ei fod yn taclo anghydraddoldeb yma a dramor.”

Yr adroddiad

Mae’r adroddiad gan Oxfam yn amcangyfrif, os byddai gwledydd Prydain yn cyflwyno “treth cyfoeth” yn debyg I Sbaen, gallai’r Trysorlys godi tua £10bn o refeniw ychwanegol.

Yn ôl yr elusen, gallai system o’r fath drethu cyfoeth uwchlaw trothwy o tua £ 750,000 ar gyfradd sy’n dechrau ar 0.2%, gan godi’n gynyddrannol i 2.5% ar gyfer cyfoeth net o tua £ 12 miliwn.

O dan y system hon, byddai 90% o refeniw treth yn cael ei godi o’r 1% uchaf o aelwydydd, meddai Oxfam.

Mae’r adroddiad hefyd yn beirniadu gwledydd G7 am addo i daclo anghydraddoldeb yn 2017 ond “heb weithrediad go iawn, ymrwymiad na chynlluniau i ddod a newid go iawn.”