Mae heddwas wedi’i ladd yn ninas Bryste.

Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu Avon a Somerset iddo gael ei anafu’n angheuol tra’n ceisio arestio unigolyn yn ardal Staple Hill.

Roedd ei anafiadau’n rhai difrifol iawn, meddai’r llefarydd.