Mae astudiaeth newydd yn honni y gall graddau cynyddol o iselder a deubegynedd gael eu cysylltu ag ansawdd aer isel.

Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Chicago, ac ar sail dadansoddiad o ddata eang o’r Unol Daleithiau a Denmarc, mae “cysylltiad sylweddol” rhwng llygredd a phroblemau iechyd meddwl.

Dyma’r astudiaeth ddiweddaraf i edrych ar y mater ac fe ddefnyddiodd yr ymchwilwyr

cronfa ddata yswiriant iechyd o 151 miliwn yn yr Unol Daleithiau gydag 11 mlynedd o hawliadau glefydau niwroseiciatreg.

Yna fe gymharodd ymchwilwyr ddearyddiaeth a lleoliadau yr hawliadau â mesuriadau o 87 o lygryddion aer posib.

Yn ôl yr astudiaeth roedd siroedd â’r ansawdd aer gwaethaf gyda chynnydd o 27% mewn ddeubegynnedd a chynnydd o 6% mewn iselder mawr o’u cymharu â’r rhai â’r ansawdd aer gorau.

Mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr Aarhus o Ddenmarc, fe wnaethant archwilio nifer yr achosion o glefyd niwroseiciatreg mewn oedolion o Ddenmarc sy’n byw mewn ardaloedd ag ansawdd amgylcheddol gwael hyd at eu pen-blwydd yn 10 oed.

Canfu’r tîm fod cynnydd o 29% mewn anhwylderau iechyd meddwl i bobol sy’n byw mewn siroedd sydd â’r cymhwyster aer gwaethaf yno.