Mae Boris Johnson wedi anfon llythyr at un o uwch-swyddogion yr Undeb Ewropeaidd yn dweud bod y trefniadau ynglŷn a’r ffin yn Iwerddon yn “annemocrataidd”.

Mewn llythyr at Lywydd Cyngor yr Undeb, Donald Tusk, mae’r Prif Weinidog yn mynnu na fydd yn cefnogi cytundeb Brexit a fydd yn gadael i reolau Ewrop gael eu gweithredu yng Ngogledd Iwerddon.

Mae angen datrysiad “hyblyg a chreadigol” a “threfniadau amgen” er mwyn osgoi ffin galed, meddai, ac mae’n cynnig i ymrwymiad o’r fath gael ei roi mewn lle mor bell ag sy’n bosib cyn diwedd y cyfnod trosglwyddo.

Ond os na fydd y trefniadau mewn lle erbyn diwedd y cyfnod trosglwyddo, fe fyddai gwledydd Prydain yn “barod i edrych yn adeiladol ac yn hyblyg ar ba ymrwymiadau fydd o gymorth”, ychwanega.

Rybuddion am ffin galed

Yn y cyfamser, mae yna alwadau ar Boris Johnson i sicrhau na fydd yna ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.

Yn ôl llefarydd yr wrthblaid ar Ogledd Iwerddon, Tony Lloyd, mae Brexit dim cytundeb yn “peryglu swyddi, hawliau … ac heddwch yng Ngogledd Iwerddon”.

Daw’r alwad wedi i aelod blaenllaw o’r Senedd yn yr Unol Daleithiau rybuddio y byddai’r ddeddfwrfa honno yn atal unrhyw gytundeb masnach gyda gwledydd Prydain os bydd Cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn cael ei beryglu mewn unrhyw fodd.

Mae Chuck Schumer, arweinydd y Democratiaid yn y Senedd, hefyd wedi galw ar weinyddiaeth Donald Trump i roi’r gorau i wneud addewidion am gytundeb masnach “diamod ac afrealistig” gyda gwledydd Prydain.

Mae ei rybuddion hefyd wedi cael eu hanfon at yr Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab.