Mae cwmnïau betio yn targedu plant mewn hysbysebion ar gyfer cystadlaethau ar-lein, gan fynd yn erbyn rheolau’r diwydiant, yn ôl adroddiad.

Yn yr adroddiad mae ymchwilwyr yn dangos fod chwarter defnyddwyr ar-lein wnaeth ymateb i odiau betio ar gystadlaethau cyfrifiadur ar Twitter o dan 16 oed.

Mae awduron yr adroddiad Biddable Youth, sydd wedi cael eu creu gan gorff meddwl Demos ac Adran Rheolau ym Mhrifysgol Bryste, yn galw ar gwmnïau technoleg i ddefnyddio dulliau gwirio i atal plant rhag gweld hysbysebion gamblo ar-lein.

Roedd yr ymchwilwyr wedi dadansoddi dros 888,000 o drydariadau yn gysylltiedig â betio dros gyfnod o naw mis yn 2018, ac wedi darganfod fod 28% o’r ymatebion gan blant gwledydd Prydain. Yn fyd eang, roedd y ffigwr yn codi I 45%.

Mae ffigur gwledydd Prydain bum gwaith yn fwy na’r 5% o blant a ymatebodd i drydar betio ar gyfer chwaraeon traddodiadol gan gwmnïau betio,

Yn ôl yr adroddiad roedd yn ymddangos nad oedd 74% o’r trydariadau yn cydymffurfio â rheoliadau hysbysebu trwy gyflwyno gamblo fel ffynhonnell incwm neu annog gamblo ar adegau anghymdeithasol.

Roedd rhai ohonynt hefyd yn torri rheoliadau trwy ddangos person o dan 25 oed mewn hysbyseb gamblo.