Mae Boris Johnson yn hyderus bod yr Undeb Ewropeaidd yn mynd i newid ei safbwynt ynghylch y cytundeb Brexit, ond mae’n cyfaddef y bydd yna “rwystrau ar y ffordd”.

Mae’r Prif Weinidog wedi wfftio galwadau am ail-alw’r Senedd o wyliau’r haf, er gwaethaf rhybuddion gan rai ynghylch y niwed economaidd “difrifol” y gallai Brexit heb gytundeb ei achosi.

Mae disgwyl i Boris Johnson ddweud wrth Angela Merkel ac Emmanuel Macron yr wythnos hon fod gwledydd Prydain yn mynd i adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31, doed a ddelo.

Ond mae’n cydnabod bod Ewrop yn gyndyn i newid ei safbwynt ar drefniadau’r ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, ar hyn o bryd.

Ceisio cytundeb newydd

“Mae’n bosib y bydd yna rwystrau ar y ffordd, ond rydym yn barod i adael ar Hydref 31 – cytundeb neu ddim cytundeb,” meddai Boris Johnson.

“Mae ein ffrindiau a’n partneriaid y tu draw i’r Sianel ychydig yn amharod i newid eu safbwynt ar hyn o bryd.

“Mae hynny’n iawn. Dw i’n hyderus y byddan nhw’n newid. Ond yn y cyfamser, mae’n rhaid inni baratoi ar gyfer Brexit dim cytundeb.

“Dw i eisiau cytundeb. Rydym yn barod i weithio gyda’n ffrindiau a’n partneriaid i sicrhau cytundeb, ond os ydych chi eisiau cytundeb da ar gyfer y Deyrnas Gyfunol, mae’n rhaid i chi baratoi i adael heb un.”

Dogfennau cyfrinachol

Daw sylwadau Boris Johnson yn sgil cyhoeddi dogfennau cyfrinachol, a ddeilliodd o Whitehall ei hun, sy’n cynnwys rhybuddion difrifol am Brexit dim cytundeb.

Mae’r manylion, sydd wedi eu cyhoeddi ym mhapur y Sunday Times, yn rhybuddio am argyfyngau fel prinder bwyd a meddyginiaethau os na fydd cytundeb Brexit.

Mae Rhif 10 wedi mynnu bod y dogfennau yn hen, a bod Llywodraeth Prydain mewn sefyllfa well i ddelio â sefyllfa ‘dim cytundeb’ erbyn hyn.