Mae’r Tywysog Andrew wedi dweud ei fod wedi’i “arswydo” gan honiadau yn ymwneud a’r cyn-arbenigwr ariannol Jeffrey Epstein.

Roedd Dug Caerefrog wedi rhyddhau datganiad ar ol i fideo newydd ddod i’r amlwg oedd yn dangos y tywysog yng nghartref ei gyn-gyfaill yn Manhattan yn 2010, a hynny ar ol i Jeffrey Epstein gael ei garcharu am 18 mis am droseddau rhyw yn 2008.

Roedd Jeffrey Epstein, 66, wedi lladd ei hun yn ei gell mewn carchar yn Efrog Newydd yn gynharach  y mis hwn wrth iddo aros i sefyll ei brawf ar gyhuddiadau o fasnachu rhyw. Roedd wedi gwadu’r honiadau.

Honnir bod y fideo, sydd wedi dod i ddwylo MailOnline, wedi cael ei ffilmio ar Rhagfyr 6 2010, tua’r un pryd ag y cafodd y Tywysog Andrew ei weld yn Central Park yn Efrog Newydd gyda Jeffrey Epstein.

Mewn datganiad dywedodd Palas Buckingham bod y Dug wedi’i “arswydo gan yr adroddiadau diweddar am droseddau honedig Jeffrey Epstein.”

Ychwanegodd bod “unrhyw awgrym ei fod wedi caniatau, cymryd rhan neu annog ymddygiad o’r fath yn ffiaidd.”

Mae’r Tywysog wedi cael ei feirniadu am ei gysylltiadau gyda Jeffrey Epstein ac mae Palas Buckingham wedi gwadu honiadau gan fenyw sy’n dweud ei bod wedi cael ei gorfodi i gael rhyw gyda’r Dug yn Florida pan oedd hi dan oed.  Dywed Palas Buckingham nad “oes sail i’r honiadau”.