Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael eu hannog i gefnogi cynllun gwrth-Brexit a fyddai’n arwain at benodi Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog dros dro.

Dan y cynllun byddai pleidlais diffyg hyder yn cael ei gynnal, byddai dyddiad yr ymadawiad yn cael ei wthio’n bellach i’r dyfodol, a byddai etholiad cyffredinol yn cael ei danio.

A hyd yma mae’r Blaid Lafur, Plaid Cymru, a’r SNP wedi cefnogi’r syniad.

Ond dyw’r pleidiau ‘Aros’ ddim i gyd o blaid penodi arweinydd y Blaid Lafur yn Brif Weinidog ac mae Jo Swinson, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi galw’r cynllun yn “nonsens”.

Ystyried pob opsiwn

Bellach mae Nicola Sturgeon, Arweinydd yr SNP, wedi ymyrryd gan alw ar y Democratiaid Rhyddfrydol i “ailfeddwl”.

“Nid awgrym Jeremy Corbyn yw’r unig opsiwn posib,” meddai Nicola Sturgeon wrth y BBC. “Ond o ystyried y sefyllfa, ddylwn ni beidio â diystyru unrhyw beth ar hyn o bryd.

“Dim fi yw ffan pennaf Jeremy Corbyn, a dyw hynna ddim yn gyfrinach. Ond wnawn ddim cefnu ar unrhyw opsiwn os ydy hynny’n helpu ni i osgoi catastroffi Brexit heb ddêl.”

Y cynllun

Nod Jeremy Corbyn yw galw cynnig diffyg hyder unwaith mae Aelodau Seneddol yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin ar Fedi 3. Byddai angen cefnogaeth mwyafrif o’r aelodau i wneud hynny.

Mi fyddai wedyn yn gofyn am estyniad i broses Erthygl 50 er mwyn gohirio ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.

Ag yntau’n Brif Weinidog byddai modd iddo gyflwyno cynnig am etholiad cyffredinol cynnar. Byddai’n rhaid i ddau draean o Aelodau Seneddol gefnogi hynny er mwyn ei basio.