Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio am y ferch 15 oed, Nora Quoirin, sydd wedi bod ar goll ers deg diwrnod.

Fe ddiflannodd Nora Quoirin, 15, sydd ag anghenion arbennig, o’i hystafell wely ym mharc gwyliau Dusun yn nhalaith Negeri Sembilan fore dydd Sul (Awst 4).

Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Lucie Blackman sy’n delio ag ymholiadau gan y cyfryngau i deulu’r ferch ei fod yn ymwybodol o’r adroddiadau a’i fod yn ceisio cael eglurhad ar frys.

Ers diflaniad Nora Quoirin mae 348 o bobol yn chwilio amdani a chafodd £10,000 o rodd eu rhoi i’r teulu gan fusnes di-enw o Belffast.

Mae ei mam yn dod o Ogledd Iwerddon, a’i thad o Ffrainc, ac roedd yn teithio ar basbort Gwyddelig, yn ol adroddiadau.

Mae modryb Nora Quoirin hefyd wedi creu tudalen ar-lein i godi arian, sydd wedi codi dros £90,000, ac mae ail ymgyrch gan ei hewythr wedi codi dros £14,000.

Dywed ei theulu eu bod nhw’n dal i fod yn obeithiol ar ôl i’r heddlu sy’n ymchwilio i’r achos wrthod diystyru “elfen droseddol”.

Mae’r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol (NCA) a’r Heddlu Metropolitan yn cefnogi heddlu Malaysia gyda’r achos.