Mae’n rhaid i Lywodraeth San Steffan gael eu dal i gyfri am y “ffiasgo” toriadau pŵer, yn ôl arweinydd undeb trafnidiaeth.
Dywedodd Manuel Cortes, ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Staff Cyflog Trafnidiaeth: “Mae hyn yn hollol annerbyniol.”
Ychwanegodd fod miloedd o deithwyr trenau wedi cael eu gadael yn sownd a bod y posibilrwydd o gael Brecsit heb gytundeb yn ychwanegu at y pryderon o gael rhagor o drafferthion gan gynnwys rhai ysbytai wedi colli eu cyflenwad
Colli cysylltiad
Yng Nghymru, effeithwyd ar dros 40,000 o gartrefi. Rhoddwyd y bai am y trafferthion am fod dwy orsaf pŵer yn Lloegr wedi colli cysylltiad.
Mae corff arolygu’r diwdiant ynni Ofgem wedi galw am ymchwiliad llawn i’r broblem.
Heddiw, mae tua 12,000 o gartrefi yng Nghymru yn dal heb drydan yn sgil y gwyntoedd cryfion ac mae’r cwmniau cyflenwi yn ceisio eu gorau i adfer y sefyllfa.