Bydd rhaid i gyn-ganwr y band Lostprophets dreulio deng mis yn ychwanegol dan glo ar ôl i lys ei gael yn euog o fod â ffôn yn ei feddiant.

Cafodd Ian Watkins, 42, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Leeds heddiw (dydd Gwener, Awst 9), a bydd y cyfnod ychwanegol yn y carchar yn cael ei ychwanegu i’r ddedfryd o 29 mlynedd a dderbyniodd yn 2013 am 13 achos o droseddau rhyw.

Roedd y pedoffeil o Bontypridd yn honni bod dau ddyn wedi ei orfodi i gadw’r ffôn yn ei feddiant fel eu bod nhw’n gallu cysylltu â merched oedd yn anfon llythyron ato.

Yn ystod yr achos, fe wrthododd Ian Watkins enwi’r ddau ddyn, gan ychwanegu: “Fyddech chi ddim eisiau chwarae gyda nhw.”

Fe ddywedodd hefyd ei fod yn rhannu’r carchar gyda “llofruddwyr, llofruddwyr torfol, treiswyr, pedoffiliaid, llofruddwyr lluosog – y gwaethaf ohonyn nhw i gyd.”

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr nad oedd yn derbyn rhesymeg Ian Watkins ei fod wedi cael ei fygwth i gadw’r ffôn.