Mae cannoedd o drigolion a adawodd eu cartrefi yn Whaley Bridge yn Swydd Derby yn sgil perygl o argae ddŵr yn dymchwel, wedi cael gwybod gan yr heddlu ei bod hi’n ddiogel iddyn nhw ddychwelyd.

Bu raid i tua 1,500 o bobol adael eu cartrefi yr wythnos ddiwethaf ar ôl i argae cronfa ddŵr Toddbrook gael ei ddifrodi gan law trwm.

Ers hynny, mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn ceisio trwsio’r argae a lleihau lefel y dŵr er mwyn ei gwneud hi’n fwy diogel i bobol ddychwelyd i’w cartrefi.

Mae’r heddlu lleol wedi diolch i drigolion am eu hamynedd.