Mae cefnogwyr Tommy Robinson yn cynnal rali yn Llundain heddiw yn galw am iddo gael gadael y carchar.

Mae ei wrthwynebwyr hefyd yn cynnal rali o dan faner Sefyll Lan i Hiliaeth.

Mae cryn bresenoldeb gan yr heddlu ar hyd llwybrau’r orymdaith, lle bu rhywfaint o wrthdaro â’r protestwyr.

Cyn y digwyddiad, roedd yr heddlu’n rhybuddio y bydden nhw’n arestio unrhyw un oedd yn gwrthod cydymffurfio â’r gyfraith.

Cefndir

Cafodd Tommy Robinson – neu Stephen Yaxley-Lennon, a rhoi ei enw go iawn iddo – ei ddedfrydu i naw mis o garchar yn yr Old Bailey fis diwethaf, ar ôl cael ei ganfod yn euog o ddirmyg llys.

Ond fe fydd e ond yn treulio naw wythnos a hanner dan glo.

Fe wnaeth e ffilmio dynion y tu allan i Lys y Goron Leeds fis Mai’r llynedd, wrth iddyn nhw wynebu cyhuddiadau o ecsbloetio merched ifainc yn rhywiol, ac fe bostiodd e’r deunydd ar Facebook.

Mae protestwyr yn ei gyhuddo o geisio hollti’r gymdeithas.