Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r canwr a diddanwr Joe Longthorne, sydd wedi marw’n 64 oed.

Fe fu farw ym mreichiau ei ŵr Jamie yn ei gartref yn Blackpool.

Roedden nhw’n briod ers 21 o flynyddoedd.

Mae hefyd yn gadael chwaer, Ann, a brawd, John.

Yn ôl Les Dennis, roedd ganddo fe “ddawn eithriadol” ac roedd e’n “ddyn neis”.

Dywed Tommy Cannon, un hanner o’r ddeuawd Cannon & Ball, ei fod e’n “dipyn o dalent a chanddo fe lais hyfryd”.

Gyrfa

Ac yntau’n canu ers degawdau, fe berfformiodd e yn y Royal Variety Show droeon ar hyd y blynyddoedd.

Ond fe ddaeth i amlygrwydd yn 1981 wrth ymddangos ar raglen Search For A Star, cyn cyflwyno’i raglen deledu ei hun, The Joe Longthorne Show.

Ar ôl cael gwybod yn 2006 ei fod yn dioddef o lewcemia, fe gafodd e drawsblaniad ar fêr ei esgyrn.