Mae trafodaethau’n parhau heddiw (dydd Sadwrn, Awst 3) mewn ymgais i atal streic gan filoedd o weithwyr ym maes awyr Heathrow.

Mae 172 o hediadau eisoes wedi cael eu canslo yn sgil bwriad aelodau undeb Unite i weithredu’n ddiwydiannol ddydd Llun a dydd Mawrth.

Fe fu trafodaethau gydag Acas hyd at 11 o’r gloch neithiwr, wrth i bron i 90% o aelodau Unite bleidleisio tros wrthod cynnig tâl gan Heathrow oedd yn werth 7.3% dros gyfnod o ddwy flynedd.

Yn ôl llefarydd ar ran Heathrow, fe fydd y maes awyr ar agor yn ôl yr arfer ddechrau’r wythnos, ond mae disgwyl oedi i deithwyr.

Mae disgwyl rhagor o streiciau ar Awst 23 a 24 os na fydd yr anghydfod wedi dod i ben.