Mae rhybudd am ragor o dywydd garw yn y pentref lle gallai argae ddŵr ddymchwel yn Swydd Derby.

Mae lefel dŵr argae Toddbrook yn Whaley Bridge wedi gostwng hanner metr ers dydd Iau, ond mae’n dal mewn perygl difrifol o ddymchwel, gyda’r gwasanaethau brys yn rhybuddio bod bywydau pobol mewn perygl.

Mae rhybudd melyn yn ei le ar gyfer rhannau helaeth o ogledd a chanolbarth Lloegr yfory (dydd Sul, Awst 4), gan gynnwys Swydd Derby.

Mae’r heddlu’n dweud ei bod yn bosib na fydd trigolion y pentref yn cael dychwelyd i’w cartrefi am beth amser eto.

Addo cymorth

Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, eisoes wedi addo cyfrannu at y gwaith o godi’r pentref ar ei draed eto, wrth iddo ymweld â thrigolion lleol ddoe (dydd Gwener, Awst 2).

Ar hyn o bryd, mae trigolion lleol sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi yn aros yn yr ysgol leol.

Yn ôl Boris Johnson, y gobaith yw gostwng lefel y dŵr o wyth metr, ond mae cryn drafod ar yr union ffigwr hwn.

Mae Llywodraeth Prydain yn rhybuddio triolion lleol i fod yn amyneddgar wrth i’r gwaith fynd rhagddo ar yr argae.