Fe allai Brexit heb gytundeb greu “panig” a gwneud bwyd yn brin “o fewn pythefnos” i’r penderfyniad, yn ôl un o ddogfennau Llywodraeth Prydain.

Mae’r ddogfen, sydd wedi cael ei pharatoi ar gyfer gweinidogion ac sydd wedi glanio yn nwylo Sky News, yn dweud y gallai’r bunt ddisgyn yn y mis cyntaf.

Mae’r gair “sensitif” ar y ddogfen sy’n rhybuddio y gall pobol o wledydd Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd, golli mynediad i wasanaethau a hawliau preswyl o fewn y 24 awr gyntaf o Brexit heb gytundeb.

Daeth y ddogfen i’r fei ddoe (dydd Iau, Awst 1) wrth i’r Prif Weinidog Boris Johnson barhau i ailadrodd ei addewid i adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31, bargen newydd neu beidio.

Cafwyd y newyddion wrth i’r Canghellor Sajid Javid gyhoeddi cyllideb o £2.1bn i baratoi at Brexit heb gytundeb.

Yn ôl Sky News roedd y ddogfen wedi’i pharatoi yn ystod wythnosau olaf Theresa May yn Brif Weinidog.

Mae’r Press Association ar ddeall fod y ddogfen wedi cael ei dangos i weinidogion ond heb gael ei harwyddo gan y Llywodraeth, sy’n golygu nad yw yn bolisi swyddogol.