Mae cannoedd o drigolion Whaley Bridge yn Swydd Derby wedi treulio’r noson i ffwrdd o’u cartrefi neithiwr (nos Iau, Awst 1) ar ôl i argae gael ei ddifrodi mewn glaw trwm.

Mae hofrennydd yr Awyrlu wedi cael ei ddefnyddio i geisio atal yr argae rhag dymchwel ar ôl i lawr trwm achosi argyfwng mewn rhywbeth sydd heb ddigwydd o’r blaen.

Yn dilyn y glaw trwm mae Cronfa Toddbrook – sy’n cynnwys tua 1.3m tunnell o ddŵr – wedi cael ei ddifrodi’n sylweddol ac mae’n ymddangos bod twll mawr yn wal yr argae.

Cafodd yr hofrennydd o’r Awyrlu yn Odiham yn Hampshire ei anfon i’r lleoliad, meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Maen nhw’n gollwng cymysgedd o dywod, graean a cherrig i’r gronfa er mwyn ceisio atal mwy o ddŵr glaw rhag llifo i’r argae.

Dywed Heddlu Derbyshire y bydd 400 tunnell o’r gymysgedd yn cael ei ollwng yno o’r awyr gan yr Awyrlu wrth i ddiffoddwyr tan ddefnyddio pympiau dŵr i geisio gostwng lefel y dŵr.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd pryd fydd y trigolion yn cael dychwelyd i’w cartrefi.