CeirMae faint o geir sy’n cael eu cynhyrchu.yng ngwledydd Prydain wedi gostwng 20.1% yng ngwledydd Prydain yn hanner cyntaf 2019.

Daw hyn yn oherwydd llai o alw sydd am geir o farchnadoedd byd-eang oherwydd pryderon ynghylch Brexit heb gytundeb.

Yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn mae’r cynhyrchiant wedi gostwng o 20% o gymharu â’r un cyfnod yn 2018, meddai cymdeithas Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron.

Mae’r corff wedi cyhoeddi ymchwil newydd sy’n nodi bod dros £330m wedi cael ei wario er mwyn parayoi ar gyfer m Brexit heb gytundeb.

Mae’r arian wedi mynd at stocio deunyddiau, sicrhau safleoedd, yswiriant ychwanegol a hyfforddiant mewn gweithdrefnau tollau newydd.

Adeiladwyd 168,052 yn llai o geir yn ffatrïoedd gwledydd Prydain hyd yn hyn elrni, gyda’r galw gartref a thramor yn gostwng o 100%.

Mae gweithgynhyrchu ar gyfer prynwyr domestig wedi gostwng 16.4%, tra bod archebion tramor wedi gostwng 21%.