Mae Boris Johnson wedi mynnu “nad oes rheswm” i’r Alban gynnal ail bleidlais ar annibyniaeth.

Ar ei ymweliad cyntaf â’r Alban ers dod yn Brif Weinidog, dywedodd Boris Johnson fod y refferendwm yn 2014 wedi bod yn “ddigwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth” ac y byddai ffydd y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth yn cael ei niweidio ymhellach petai ail bleidlais yn cael ei chynnal.

Daw ei sylwadau ar ôl i Brif Weinidog yr Alban rybuddio bod Llywodraeth Prydain ar ei newydd wedd yn gyrru gwledydd Prydain tuag at “drychineb” wrth wthio am Brexit heb gytundeb.

Cyn iddi gwrdd â Boris Johnson prynhawn ma dywedodd Nicola Sturgeon: “Nid oedd pobol yr Alban wedi pleidleisio dros y Llywodraeth Geidwadol yma, wnaethon nhw ddim pleidleisio am y Prif Weinidog yma, gwnaethon nhw ddim pleidleisio o blaid Brexit a gwnaethon nhw yn bendant ddim pleidleisio dros Brexit heb gytundeb a fydd yn drychinebus.”

Ychwanegodd: “Mae’r Alban wedi cael ei hanwybyddu drwy’r broses Brexit ac mae’n bryd i bawb sy’n poeni am ddyfodol yr Alban i ddod at ei gilydd a llywio llwybr ein hunain.”

Ruth Davidson

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Ruth Davidson, hefyd wedi dweud nad yw hi’n cefnogi’r syniad o wledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Dywedodd Boris Johnson heddiw y bydd yn gwneud popeth yn ei allu i sicrhau cytundeb Brexit newydd.

Er gwaethaf y rhaniad hwn, mae Boris Johnson wedi addo “gwneud cymaint ag y medra’i” er mwyn cefnogi Ruth Davidson i ddod yn Brif Weinidog yr Alban yn etholiad Holyrood yn 2021.

Yn y cyfamser mae Boris Johnson wedi cyhoeddi £300m o arian newydd ar gyfer cymunedau yn y gwledydd sydd wedi’u datganoli.

Mae disgwyl iddo gwrdd â ffermwyr yng Nghymru yn ddiweddarach yr wythnos hon.