Mae grŵp busnes y CBI yn rhybuddio nad yw gwledydd Prydain na’r Undeb Ewropeaidd yn barod am Brexit heb gytundeb.

Mewn adroddiad newydd mae’r CBI (Conffederasiwn Busnesau Prydain), yn croesawu’r paratoadau ar gyfer Brexit, ond yn dweud bod ei “natur ddigynsail” yn golygu nad oes modd paratoi ar gyfer rhai agweddau.

Mae’r adroddiad wedi ymgynghori gydag o leiaf 50 o gyrff masnach a miloedd o gwmnïau o wledydd Prydain ynglŷn â 200 o argymhellion yn yr adroddiad gan y CBI.

“Mae’r Undeb Ewropeaidd yn llusgo y tu ôl i wledydd Prydain wrth geisio atal effeithiau gwaethaf sefyllfa Brexit heb gytundeb,” meddai’r CBI.

“Er bod busnesau eisoes wedi gwario biliynau ar gynllunio wrth gefn ar gyfer unrhyw gytundeb, maen nhw’n parhau i gael eu rhwystro gan gyngor aneglur, terfynau amser, costau a chymhlethdod.”

Ym mis Mai, fe rybuddiodd y CBI yn erbyn Brexit heb gytundeb, gyda’r cyfarwyddwr Carolyn Fairbairn yn dweud na ddylai fod yn opsiwn “sydd hyd yn oed yn cael ei hystyried.”