Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb ddêl yn fygythiad i’r sector gwyddoniaeth sy’n “ffynnu”, yn ôl sefydliad blaengar.

Mae’r Farwnes Eliza Manningham-Buller, cadeiryddes Ymddiriedolaeth Wellcome, wedi ysgrifennu at Brif Weinidog newydd Prydain, Boris Johnson i alw arno i wneud datganiad sylweddol ar wyddoniaeth cyn gynted â phosib.

Yn y llythyr, a gyhoeddwyd heddiw, dywed y farwnes y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb ddêl yn fygythiad i’r sector a bod Brexit eisoes wedi arwain i golli ymchwilwyr a dylanwad.

Meddai: “Mae Wellcome yn gwario tua £1bn y flwyddyn i gefnogi ymchwil ac mae’r rhan fwyaf o’n harian yn cael ei wario yn y Deyrnas Unedig oherwydd fod yma sector sy’n ffynnu.

“Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb ddel yn fygythiad i hynny.”