Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn honni fod gan ei gwlad yr hawl i benderfynu ei ddyfodol ei hun wrth iddi leisio ei “phryder mawr” am Brif Weinidog newydd gwledydd Prydain.

Ar ôl apwyntiad Boris Johnson heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 23) fel olynydd Theresa May mae Nicola Sturgeon hefyd yn dweud y byddai’n “gwrthwynebu ei fygythiad o Brexit heb gytundeb.”

Mae hi’n addo “gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau ei fod yn parchu safbwyntiau’r Alban.”

Dywed bod y posibilrwydd o reolaeth Boris Johnson yn bryderus, gan fynnu y byddai’n “ragrithiol i beidio â bod yn onest am y rhain”.

“Mae’r rhain yn bryderon y byddaf yn sicr fydd yn cael eu rhannu gan y mwyafrif helaeth o bobl yn yr Alban na fyddai, pe baent wedi cael dweud eu dweud, wedi dewis rhoi allweddi Rhif 10 i rywun gyda safbwyntiau fel sydd ganddo. ”

Daw’r sylwadau ar ôl i Ysgrifennydd yr Alban, David Mundell, alw ar y Ceidwadwyr i gefnogi’r Prif Weinidog newydd er mwyn sicrhau bod Brexit yn digwydd, a bod gwledydd Prydain yn aros yn unedig.

Dywed arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Ruth Davidson, oedd yn cefnogi Jeremy Hunt yn yr ymgyrch, bod rhaid i Boris Johnson gadw’r Alban o fewn gwledydd Prydain ac atal Nicola Sturgeon rhag cael ail refferendwm.