Mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi penodi Aelod Seneddol Llafur, John Mann, yn gynghorydd annibynnol ar wrth-Semitiaeth.

Bydd y swydd yn golygu fod John Mann, sy’n gadeirydd y Grŵp Seneddol Aml-bleidiol ar wrth-Semitiaeth, yn darparu cyngor annibynnol ar sut i fynd i’r afael â’r mater, meddai Downing Street.

“Mae gwrth-semitiaeth yn hiliaeth. Does dim lle yn ein cymdeithas ac mae’n rhaid i ni frwydro yn ei erbyn lle bynnag y bydd yn dangos ei ddannedd,” meddai Theresa May.

“Mae John Mann, yn ddieithriad, yn llais allweddol ar y mater hwn. Mae wedi ymgyrchu’n aml yn Nhŷ’r Cyffredin ar y mater hwn ac mae wedi defnyddio ei rôl fel gwleidydd yn ddiflino i siarad ar ran dioddefwyr hiliaeth gwrth-Iddewig.

Dywedodd Downing Street y byddai John Mann yn gyfrifol am ddarparu cyngor annibynnol i’r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar y dulliau mwyaf effeithiol o fynd i’r afael â gwrth-Semitiaeth.