Mae brawd bomiwr Arena Manceinion, Salman Abedi, wedi cael ei gadw yn y ddalfa yn dilyn gwrandawiad mechnïaeth yn y llys.

Roedd Hashem Abedi, 22, wedi ymddangos yn Llys y Goron Rhydychen drwy gyswllt fideo heddiw (Dydd Llun, Gorffennaf 22) o garchar Belmarsh yn Llundain.

Roedd Hashem Abedi, o Fanceinion, wedi teithio i Libanus cyn i’w frawd ladd 22 o bobol ac anafu 260 o bobol eraill ar ôl sioe Ariana Grande ar Fai 22, 2017.

Mae’n wynebu 22 achos o lofruddiaeth, un achos o geisio lladd ac un o gynllwynio gyda’i frawd i achosi ffrwydradau.

Mae hefyd yn wynebu cyhuddiad o geisio prynu cemegau ar gyfer creu ffrwydron.

Yn ôl erlynwyr, fe helpodd Hashem Abedi ei frawd i brynu car Nissan Micra i gadw rhannau o’r ddyfais ffrwydrol, a’i fod wedi gwneud offer i’w defnyddio yn y ffrwydryn.

Fe gafodd ei arestio yn Tripoli, ond cafodd ei estraddodi i’r Deyrnas Unedig ddydd Mercher, Gorffennaf 17.

Fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa nes y gwrandawiad nesaf ar Orffennaf 30.